Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl

Cyfarfod - 26 Ionawr 2015 - 14:00-15:00

Ystafell Fwyta 1, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

 

Yn bresennol

 

Joyce Watson AC (JW)

Nitesh Patel (NP) – Swyddog Cyfathrebu, Joyce Watson AC

Dr Mwenya Chimba (MC) – BAWSO

Stephen Chapman (SC) – Llywodraeth Cymru

James Bushell (JB) – IJM y DU

Dan Boucher (DB) – CARE

Sarah Thomas (ST) - NewPathways

 

Eitem 1 – Ymddiheuriadau

Bethan Jenkins AC

Barbara Natasegara - Cymru Ddiogelach

Bernie Bowen-Thomson - Cymru Ddiogelach

 

Eitemau 7 ac 8

Cadarnhawyd JW a BAWSO/Cymru Ddiogelach fel Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth y grŵp gan aelodau’r grŵp a oedd yn bresennol. Dywedodd MC fod Cymru Ddiogelach wedi mynegi eu bod yn fodlon i barhau yn y rôl Ysgrifenyddiaeth ochr yn ochr â BAWSO.

 

Eitem 4

Dywedodd JW fod llawer wedi digwydd o ran deddfwriaeth, a thrwy ymgyrchoedd ar gyfer newid, i fynd i’r afael â Masnachu mewn Pobl ers i’r grŵp gyfarfod ddiwethaf ym 2014.

Cyfeiriodd JW at adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl yn 2010, ac argymhellion yr adroddiad hwnnw. Mae 2015 yn gyfle i adolygu’r cynnydd a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf, ac i ystyried a yw pob un o’r argymhellion yn yr adroddiad wedi cael eu gweithredu.

Dywedodd JW fod 2015 hefyd yn amser i’r Grŵp ystyried beth y mae am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Cyfeiriodd JW at benodiad diweddar Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth gyfer Cymru a Lloegr, a dywedodd ei bod yn croesawu’r ffaith bod y penodiad yn dilyn yr enghraifft a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru wrth benodi eu Cydlynydd Gwrth-Fasnachu mewn Pobl eu  hunain yng Nghymru.

Dywedodd JW wrth y grŵp ei bod wedi gofyn cwestiwn yn y Cynulliad ym mis Tachwedd 2014 ynghylch sut y bydd y swyddogaethau yn gorgyffwrdd ac yn gweithio gyda’i gilydd.

Dywedodd JW fod y Bil Caethwasiaeth Fodern drafft yn gwneud cynnydd da yn y Senedd, a bod yr amser presennol yn gyfle i bobl ledled Cymru, a sefydliadau, weithio i sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud i’r bil drafft.

Cafwyd cytundeb o swyddfa Yvette Cooper (YC) ynghylch bod yn bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol i sôn am Fasnachu mewn Pobl, os bydd ei hamserlen yn caniatáu hyn cyn yr etholiad cyffredinol yn 2015.

 

Eitem 5

Aeth JW drwy bob un o’r saith argymhelliad a oedd yn adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl yn 2010.

Cadarnhaodd SC bod Fforwm i Bobl Cymru i ddarparu hyfforddiant a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn datblygu’n dda yng ngorllewin Cymru, sydd yn dod yn unol â’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yng ngogledd a de Cymru.

Dywedodd SC fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng sesiwn wyneb yn wyneb 3 awr, cwrs diwrnod llawn i ymatebwyr cyntaf a thrwy gwrs tri diwrnod arbenigol llawn ar drosedd a chaethwasiaeth fodern ar gyfer yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Y cwrs ar gyfer yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yw’r cwrs cyntaf yn y DU ble mae’r Heddlu a’r Erlynwyr yn hyfforddi gyda’i gilydd. Mae’r hyfforddiant yn werth pwyntiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol. Hyfforddwyd oddeutu 90 o bobl ar y cwrs hyd yma. Cynhelir rhagor o gyrsiau ledled Cymru yn 2015.

Mae gan heddlu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiddordeb yn y cyrsiau a ddarperir yng Nghymru hefyd. Cafwyd diddordeb mawr yn y cwrs, ac adborth da arno. Mae’r cwrs yn rhoi sgiliau a hyder i’r rhai sy’n cymryd rhan ynddo, i ymdrin â materion Masnachu mewn Pobl ac i ddarparu cymorth i ddioddefwyr.

Dywedodd SC fod cynnydd enfawr wedi’i wneud, ac yn fwyaf nodedig, mae BAWSO a New Pathways bellach yn ymatebwyr cyntaf. Mae’r sefydliadau hyn bellach yn hyfforddi gwahanol sefydliadau, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn Awdurdodau Lleol.

Gofynnodd DB a oedd gan ECPAT UK bresenoldeb yng Nghymru o ran y gefnogaeth a ddarperir. Dywedodd SC eu bod hwy, a llawer o wahanol sefydliadau yn darparu cefnogaeth mewn amryw o ffyrdd i fynd i’r afael â materion Masnachu mewn Pobl.

Dywedodd SC bod adolygiad yn cael ei gynnal ar y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar hyn o bryd.

 

Dywedodd MC y bu ymdrechion i sefydlu llwybr yng Nghymru, fel bod cyrff yn gwybod beth i’w wneud pan fyddant yn wynebu achosion posibl o Fasnachu mewn Pobl.

Dywedodd SC bod y Gynhadledd Asesu Risg Atgyfeirio Aml-asiantaeth yn awr yn cael ei defnyddio i helpu rhai sy’n cael eu masnachu.

Dywedodd ST fod y sylfeini ar gyfer pob un o’r argymhellion yn yr adroddiad 2010 wedi’u sefydlu, ac mae gwelliannau’n cael eu gwneud i sicrhau gwell cyd -weithio rhwng gwahanol sefydliadau sy’n helpu dioddefwyr. Ceir mwy o ddealltwriaeth gan sefydliadau a’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwn bellach am yr heriau, a ffyrdd i helpu dioddefwyr.

Dywedodd SC fod y Bil Caethwasiaeth Fodern a’r adolygiad o’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ymhlith y newidiadau mwyaf sy’n digwydd yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Gofynnodd JW i’r grŵp ystyried beth yw’r targedau allweddol ar ei gyfer dros y 12 mis nesaf.

Mynegodd MC bryderon bod ymgysylltiad rhai sefydliadau yng Nghymru o ran y newidiadau deddfwriaethol sy’n cael eu datblygu yn y Bil Caethwasiaeth Fodern yn ymddangos yn isel. Dywedodd fod angen gwell cyfathrebu ynghylch beth fydd y newidiadau yn y gyfraith yn ei olygu yng Nghymru.

Dywedodd DB fod yr ychydig fisoedd nesaf yn hynod o bwysig o ran y newidiadau deddfwriaethol. Mae’r ychydig fisoedd nesaf, yn ystod cyfnod y gwelliannau, yn bwysig iawn o ran sicrhau y gwneir gwelliannau i’r Bil. Bydd y cyfle i roi unrhyw welliannau ar waith wedi’i golli pan fydd ar y llyfrau statud.

O dan y Bil cyfredol, bydd gan ddioddefwyr yng Nghymru lai o hawliau nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r ddeiseb ar-lein gan CARE yn mynd i’r afael â’r diffygion yn y bil drafft.

Dywedodd JB y byddai’n hyrwyddo bodolaeth y ddeiseb ymhlith y bobl y mae’n ymwneud â hwy.

Awgrymodd MC y gellid anfon e-bost i aelodau’r grŵp ar ffordd ymlaen ar gyfer y flwyddyn hon, fel bod modd iddynt gyfrannu at yr agenda gwaith ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd JW y byddai’n rhaid i ddiben canolog gael ei ddiffinio ar gyfer y cyfarfod gyda’r YC.

Dywedodd JW mai’r ffocws allweddol yn y tymor byr fydd dylanwadu ar y Bil cyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth. Cytunodd yr aelodau y dylai hyn fod yn ffocws ar gyfer y grŵp a’i aelodau yn y tymor byr.

Yna dywedodd JW mai’r ffocws yn yr hirdymor fydd sicrhau bod aelodau a sefydliadau yn gallu cymhwyso a deall y newidiadau yn y ddeddfwriaeth a wnaed drwy’r bil.

Dywedodd MC y gallai’r newidiadau a wneir yn sgîl yr adolygiad Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol olygu nad yw eu sefydliad yn Ymatebwyr Cyntaf bellach.

Dywedodd MC unwaith eto, bod llawer o sefydliadau ar lawr gwlad nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r holl newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r Mecanwaith Atgyfeirio a thrwy ddeddfwriaeth.

Mynegodd NP y farn bod nifer sylweddol o newidiadau wedi digwydd ers adroddiad JW bum mlynedd yn ôl, yn fwyaf nodedig o ran y Cydlynydd Masnachu mewn Pobl, a cheir llawer o ffactorau anhysbys, fel canlyniadau’r adolygiad MAC, ac unrhyw welliannau a wneir i’r Bil Caethwasiaeth Fodern.

Dywedodd JW fod cynllunio ar gyfer materion y Gyllideb yn hanfodol drwy gydol y broses o newid, ac y dylid sicrhau bod digon o arian ar gael i gefnogi dioddefwyr masnachu mewn pobl.

Dywedodd JB fod codi ymwybyddiaeth yn yrrwr allweddol o ran gallu dod o hyd i ddioddefwyr masnachu mewn pobl ledled y byd.

Dywedodd SC, yn dilyn yr agenda cam-drin domestig, bod ffordd mwy penodol ar gyfer prysuro’r agenda ar gyfer masnachu mewn pobl, o ran mwy o hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth a dod o hyd i eiriolwyr i gefnogi’r achos.

Mae SC wedi cyfarfod â Kevin Hyland (KH) nifer o weithiau. Mae gorfodaeth yn sbardun i Kevin. Mae SC wedi pwysleisio wrtho bod cymorth i ddioddefwyr hefyd yn allweddol. Dywedodd SC fod KH wedi mynegi ei gefnogaeth i’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru.

Gofynnodd NP a oedd rolau’r Cydlynydd yng Nghymru a’r Comisiynydd yng Nghymru / Lloegr yn ategu ei gilydd? Cadarnhaodd SC eu bod, ac y byddai ef yn hoffi pe bai Cydlynwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i weithio gyda hwy.

Agenda ar gyfer y dyfodol

Cytunodd y grŵp y dylai’r agenda ar gyfer gwaith yn y dyfodol gynnwys:

·         dylanwadu ar y trydydd darlleniad o’r Bil Caethwasiaeth Fodern yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cytunodd DB i anfon rhestr o gydweithwyr yn y maes yng Nghymru mewn neges e-bost.

·         codi ymwybyddiaeth o’r hyn y bydd y newidiadau yn y ddeddfwriaeth yn ei olygu i sefydliadau sy’n gweithio i helpu dioddefwyr.

·         gweithio i sicrhau bod y cyllidebau angenrheidiol wedi’u nodi i gefnogi dioddefwyr a sefydliadau sy’n gweithio ym maes trechu Masnachu mewn Pobl.

·         Awgrymodd NP bod y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl yn cael cyfarfod cyffredinol arall wedi i’r Bil Caethwasiaeth Fodern gael ei basio, ac y dylai’r cyfarfod gydag YC gael ei gynnal ar wahân. Cytunodd y grŵp â hyn.

 

Eitem 6

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  3 Chwefror 2014.

Eitem 7

Dim